Mae plant o Ysgol Crud y Werin yn Aberdaron wedi helpu i greu gosodiad ar gyfer Porth y
Swnt, ein Canolfan Ragoriaeth Twristiaeth Arfordirol sydd i agor yn Aberdaron diwedd
y mis.
Fe ymunodd Christine Evans, y bardd o Lŷn, â’r bobl ifanc i baentio
cerrig crynion a fydd yn cael lle blaenllaw yn y gosodiad ‘Môr o Eiriau’ ym
Mhorth y Swnt. Yn ystod yr ymweliad bu Christine yn annog disgyblion i
ddefnyddio ysbrydoliaeth o’r môr a’r dirwedd o gwmpas i baentio eu hoff air ar
gerrig crynion.
Plant brwdfrydig!
Mae gwaith Christine Evans wedi ei
ddylanwadu gan amser a dreuliwyd ar Ynys Enlli lle’r oedd ei gŵr yn gweithio
fel gwarcheidwad y goleudy ac fel pysgotwr.
Mae ei barddoniaeth yn tynnu ar ddelweddaeth o olau a dŵr ac mae’n dal i
ddysgu cyrsiau ysgrifennu ar yr ynys.
Casgliad o'r cerrig
Bydd y ganolfan newydd yn rhoi cyfle i bobl
ddarganfod hanes a diwylliant Llŷn. Bydd canolfan yr Ymddiriedolaeth
Genedlaethol ag arddangosfeydd ac arddangosiadau rhyngweithiol yn dilyn thema
‘Goleuni ar Lŷn’, fel gwaith celf, synau, a barddoniaeth yn ogystal â straeon
gan bobl leol.
Bydd ymwelwyr o’r tu allan i’r ardal yn cael eu hannog i
ddeall ffordd draddodiadol o fyw sy’n wirioneddol Gymreig yn Aberdaron ac sydd
wedi ei gwau’n annatod â’r môr ac i dreulio mwy o amser yn fforio Llŷn
ymhellach.
Rydyn
ni’n gobeithio y daw Porth y Swnt cyn bôr hir yn rhan bwysig o’r gymuned yn
Aberdaron ac yn Llŷn yn gyffredinol. Hoffem helpu cenedlaethau iau i
ddeall hanes a chwedlau cyfoethog eu cartref ac rydyn ni’n bwriadu gweithio’n
agos gydag ysgolion a busnesau lleol a’r gymuned.
Mae Porth y Swnt yn cael cymorth gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys
Cronfa Gymdeithasol Ewrop.